Skip to content

Mapiau etholiadol

Defnyddiwch ein mapiau etholiadol ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i olrhain daearyddiaeth etholiadol y Deyrnas Unedig.

Bydd mapiau etholiadol yr Arolwg Ordnans (OS) yn eich helpu i ddiffinio ffiniau etholiadol yn glir.

Drwy ein cymwysiadau ar y we, gallwch gael mynediad i fapiau etholiadol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r rhain yn dangos yn glir yr etholaethau etholiadol yn erbyn graddfeydd mapio gwahanol. Bydd y cymwysiadau gwe yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n gynrychiolydd etholedig, yn ymgeisydd neu’n weithiwr plaid. Gallwch ddewis amrywiaeth o ffiniau gweinyddol ac etholiadol y gellir eu troshaenu ar y mapiau.

Telerau defnydd

Darllenwch y telerau ac amodau ar gyfer defnyddio ein apiau gwe mapiau etholiadol. 

Data Boundary-Line

Gallwch lawrlwytho a defnyddio ein mapiau digidol OS OpenData Boundary-Line am ddim o dan delerau OS OpenData.

Cysylltwch â ni

I gysylltu â ni, anfonwch neges e-bost at customerservices@os.uk neu ffoniwch ein llinell gymorth Gymraeg ar 03456 050504.